Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r wefan GOV.UK ehangach. Mae yna ddatganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y brif wefan GOV.UK.
Mae’r datganiad hwn ond yn berthnasol i’r gwasanaeth Gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA), sydd ar gael ar Lwfans Ceisio Gwaith (JSA): Gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd - GOV.UK (www.gov.uk).
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn mwyaf diweddar o VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Nid yw ‘Voice over’ yn darllen allan crynodeb gwall ar draws y gwasanaeth ar un porwr, sef Safari. Profwyd hyn ar Firefox a Chrome a phorwyr eraill ac mae’n gweithio yn ôl y disgwyl.
Adborth a manylion cyswllt
Fel rhan o ddarparu’r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Byddwn yn gofyn i chi sut yr hoffech i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch ond cysylltwch â ni os ydych eu hangen mewn ffurf gwahanol.
Os byddwch angen gwybodaeth am y gwasanaeth hwn mewn ffurf gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â ni trwy e-bost: quarryhouse.userresearch.newstylejsa@dwp.gov.uk . Byddwn yn ystyried eich cais ac yn anelu ymateb o fewn 21 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ebost: quarryhouse.userresearch.newstylejsa@dwp.gov.uk .
Proses orfodaeth
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector y Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Chymhwysiadau Symudol) (Rhif 2) (“y rheoliadau hygyrchedd”). Os na fyddwch yn fodlon o ran sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl sy’n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd ag amhariad lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i’ch helpu i gwblhau’r gwasanaeth yn bersonol.
Cysylltwch â ni ar quarryhouse.userresearch.newstylejsa@dwp.gov.uk .
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasnaeth hwn
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2).
Statws cydymffurfio
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â safon 2.1 AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe .
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gweithio i sicrhau bod y wefan yn cydymffurfio â safon WCAG fersiwn 2.2.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Ebrill 2024. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ar 23 Ebrill 2024. Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ym mis Mawrth 2024. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan beirianwyr sicrhau ansawdd Gwasanaethau Gwneud Cais.
Cynhaliwyd profion gan ddefnyddio cyfuniad o brofion awtomataidd a phrofion â llaw, gan gynnwys technoleg hygyrchedd.
Gwnaethom ddefnyddio dull samplu, gan ddewis tudalennau a oedd yn yn wahanol yn weledol neu’n weithredol i’w gilydd. Dewiswyd y sampl i gwmpasu cymaint o gydrannau a phatrymau dylunio gwahanol â phosibl.
Y tudalennau a brofwyd oedd:
- Edrychwch dros eich atebion cyn cyflwyno’ch cais
- Darganfyddwch a ydych efallai yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
- Cadarnhewch dyddiad dechrau’r cais
- Amdanoch chi
- Beth yw eich rhif ffôn?
- Pryd oedd y gwasanaeth rheithgor?
- A yw hyn â thal neu’n wirfoddol?
- Pa mor aml ydych yn cael eich talu?
- Pam ddaeth y swydd hon i ben?
- Pa mor aml y telir eich pensiwn neu flwydd-dal?
- Beth yw cyfeiriad eich darparwr pensiwn neu flwydd-dal?
- Beth oedd enw’ch cwrs neu raglen hyfforddiant?
- Sawl awr yr wythnos ydych chi’n mynychu’r addysg neu’r hyfforddiant hwn?
- Eich manylion banc
- Datganiad
- Cais wedi’i gwblhau